Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Health and Social Care Committee
|
|
|
24 Hydref 2011 |
|
|
Annwyl Gyfaill
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad iofal preswyl i bobl hŷn. Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:
- y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.
- gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.
- ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.
- effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.
- darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg
- y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector, a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu canolbwyntio’r ymchwiliad ar ofal preswyl, ond mae’n anochel y bydd trafodion yn cyffwrdd â materion sy’n ymwneud â gofal nyrsio. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i ganolbwytio ei sylw y gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.
Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn 2012, felly byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyflwyniad a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar, pe byddem yn eich gwahodd i wneud hynny.
Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond rydym yn gofyn bod sefydliadau sydd â Chynlluniau Iaith Gymraeg yn darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau.
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at HSCCommittee@wales.gov.uk.
Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.
Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011. Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.
Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rheini sydd ar y rhestr ddosbarthu sydd ynghlwm. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno barn.
Datgelu Gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.
Yn gywir
Mark Drakeford AC / AM
Cadeirydd / Chair
Rhestr ddosbarthu
Byrddau Iechyd
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf
Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda
Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys
Ymddiriedolaethau Iechyd
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ymddiriedolaeth GIG Felindre
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cynghorau Iechyd Cymuned
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan
Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr
Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed
Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf
Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda
Cyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn
Cynghorau
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Cyngor Caerdydd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Ceredigion
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Sir Ddinbych
Cyngor Sir y Fflint
Cyngor Gwynedd
Cyngor Sir Ynys Môn
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Cyngor Dinas Casnewydd
Cyngor Sir Penfro
Cyngor Sir Powys
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cyngor Bro Morgannwg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Asiantaethau Swyddogol
Cyngor Gofal Cymru
Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd
Atebion Iechyd Cymru
Y Sefydliad Iechyd Gwledig
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol
Yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddfa Archwilio Cymru
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Cyrff proffesiynol
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru
Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)
Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Coleg y Therapyddion Galwedigaethol
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru
Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Conffederasiwn GIG Cymru
Sector Gwirfoddol
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Gweithredu ar Golli Clyw Cymru
Age Cymru
Age Cymru – Prosiect “Fy mywyd cartrefol i”
Cynghrair Henoed Cymru
Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan
Cymdeithas Alzheimers
Anheddau Cyf
Cynhalwyr Cymru
Gofal a Thrwsio Cymru
Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol
Cyngor ar Bopeth Cymru
Gofal Croesffyrdd
Cymorth Cymru
Dementia UK
Dignified Revolution
Anabledd Cymru
Hafal
Cymorth Canser Macmillan
Cymdeithas Cenedlaethol yr Henoed
Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru
Cynghrair Eiriolaeth Pobl Hŷn
Parkinson’s UK Cymru
Fforwm Pensiynwyr Cymru
Y Lleng Brydeinig
Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth
Stonewall Cymru
Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr
The Disability Can Do Organisation
Cynghrair Cynhalwyr Cymru
Senedd Pobl Hŷn Cymru
Rhwydwaith Gweithwyr Gofal Cymru
Cynghrair Ailalluogi Cymru
Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched
Darparwyr tai, y sector annibynnol a chyrff cynrychiadol
Cymdeithasol Rheolwyr Tai Ymddeol
Fforwm Gofal Cymru
Canolfan Tai a Chymorth
Cymdeithas Gofal Cartref Cymru
EroSH
Cymdeithas Genedlaethol Gofal
Cymdeithas Gofal Gogledd Cymru
Cymdeithas Cartrefi Nyrsio Cofrestredig
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol
Cymdeithas Gofal Cartref y DU
Tai Melin
Tai Abbeyfield
Linc Cymru
Tai Cymoedd i'r Arfordir
Grŵp Seren
Grŵp Tai Pennaf
Sefydliad Tai Siartredig Cymru
Cymdeithas Gofal Hafod
Cartrefi Cymunedol Cymru
Cymdeithas Tai Teuluol (Cymru)
Academia
Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC)
Prifysgol Bangor - Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
Prifysgol Abertawe - Canolfan Heneiddio Arloesol
Canolfan Ymchwil Gwaith Gofal Cymdeithasol
Sefydliad Ymchwil Meddygaeth a Gofal Cymdeithasol – Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru
Prifysgol Caerdydd
Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Iechyd
OPAN Cymru
Partneriaethau Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol
De Ddwyrain Cymru
De Orllewin Cymru
Gogledd Cymru
Canolbarth Cymru
Undebau Llafur
UNSAIN
Unite
TUC Cymru
Eraill
Canolfan Cydweithredol Cymru
Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Pwyllgorau Cynghorol Statudol Iechyd Llywodraeth Cymru
Cydlynwyr Strategaeth Pobl Hŷn
Cydlynwyr Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru
Cydlynwyr Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
Barrie W Cooper (Ymddiriedolwr, Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg)
Dr Angie Ash
David and Hilda Smith